2015 Rhif 1521 (Cy. 178)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ymdrin â gwneud offerynnau llywodraethu newydd ar gyfer ysgol a fydd yn newid ei chategori yn unol â chynnig sy’n cael ei wneud o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Mae rheoliad 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn ymdrin â sut y dylai’r offeryn llywodraethu newydd gael ei wneud.

Mae rheoliadau 4 – 6 yn darparu ar gyfer  ailgyfansoddi’r corff llywodraethu pan fydd ysgol yn newid categori. Caniateir i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swyddi a gwneir darpariaeth ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sy’n rhai gormodol yn ôl gofynion yr offeryn llywodraethu newydd.

 


2015 Rhif 1521 (Cy. 178)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015

Gwnaed                           14 Gorffennaf 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym                              1 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013([1]) a pharagraff 38 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Medi 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001([2]); a

(b)     Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005([3]).

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw corff llywodraethu’r ysgol y mae newid categori yn cael ei gynnig neu, yn ôl y digwydd, yn digwydd mewn cysylltiad â hi;

ystyr “y cyfnod gweithredu” (“the implementation period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cymeradwyir y cynigion neu y penderfynir arnynt o dan adrannau 50, 51 neu 53 o’ Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac sy’n dod i ben ar y dyddiad gweithredu;

ystyr “y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i’r newid categori ddigwydd;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005([4]);

ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014([5]).

Yr offeryn llywodraethu

3.(1)(1) Rhaid i’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol sicrhau erbyn diwedd y cyfnod gweithredu fod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol yn unol â’ Rheoliadau 2005 neu Reoliadau 2014 (yn ôl y digwydd).

(2) Mae’r offeryn llywodraethu newydd yn cymryd effaith o ddyddiad ei wneud at ddiben ailgyfansoddi’r corff llywodraethu ond ni fydd yn effeithio ar gyfansoddiad y corff llywodraethu sy’n rhedeg yr ysgol tra’n aros am y dyddiad gweithredu.

(3)  At bob diben arall, mae’r offeryn llywodraethu newydd yn cymryd effaith o’r dyddiad gweithredu.

Ailgyfansoddi’r corff llywodraethu

4.(1)(1) Rhaid i’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol sicrhau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau’r cyfnod gweithredu (a beth bynnag o fewn cyfnod o 3 mis gan ddechrau ar y dyddiad gweithredu), fod y corff llywodraethu yn cael ei ailgyfansoddi yn unol â’r offeryn llywodraethu newydd a’ Rheoliadau 2005 neu Reoliadau 2014 (yn ôl y digwydd).

(2) Rhaid i’r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn mewn ffordd a fydd yn ’galluogi’r awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswyddau yntau o dan baragraff (1).

Llywodraethwyr presennol yn parhau yn eu swyddi

5.(1)(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw aelod o gorff llywodraethu presennol y mae offeryn llywodraethu newydd wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r corff o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, bydd llywodraethwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau yn ei swydd o’r dyddiad gweithredu (neu ddyddiad gwneud yr offeryn llywodraethu newydd os yw’n ddiweddarach) fel llywodraethwr yn y categori cyfatebol sy’n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu newydd (pan fo categori cyfatebol yn bodoli).

(3) Bydd aelod o gorff llywodraethu presennol sy’n parhau yn llywodraethwr o dan baragraff (2) yn dal ei swydd am weddill y tymor y cafodd y llywodraethwr hwnnw ei benodi neu ei ethol ar ei gyfer yn wreiddiol.

(4) Ni chaiff trafodion y corff llywodraethu eu hannilysu am fod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr mewn categori penodol na’r hyn y darperir ar ei gyfer gan yr offeryn llywodraethu newydd, tra’n aros i’r llywodraethwyr gormodol gael eu diswyddo o dan reoliad 6.

Llywodraethwyr gormodol

6.(1)(1) Pan fo’r canlynol yn digwydd, sef—

(a)     bod gan ysgol fwy o lywodraethwyr ar neu ar ôl y dyddiad gweithredu mewn categori penodol na’r hyn sy’n ofynnol fel llywodraethwyr yn y categori hwnnw o dan yr offeryn llywodraethu newydd; a

(b)     bod y gormodedd heb ei ddileu drwy ymddiswyddiadau,

bydd y nifer yn y categori hwnnw sy’n ofynnol i ddileu’r gormodedd yn peidio â dal eu swyddi yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Ar sail hyd eu gwasanaeth y penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal eu swyddi, a’r llywodraethwr sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod di-dor byrraf ar hyn o bryd (p’un ai fel llywodraethwr un categori neu fwy nag un) fydd y cyntaf i beidio â dal ei swydd.

(3) Pan fo angen, at ddiben paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr o blith grŵp sy’n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae noddwr-lywodraethwyr a enwebir gan gategori penodol o berson i’w trin fel petaent yn gategori ar wahân o lywodraethwyr.

(5) Ni fydd unrhyw weithdrefn a nodir yn yr offeryn llywodraethu newydd ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sefydledig gormodol yn gymwys ar gyfer ailgyfansoddi’r corff llywodraethu o dan y Rheoliadau hyn.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2015

 



([1])           2013 dccc 1.

([2])           O.S. 2001/2678 (Cy.219).

([3])           O.S. 2005/2916 (Cy.213).

([4])           O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S.2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142 (Cy.101)), a chan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy.207)).

([5])           O.S. 2014/1132 (Cy. 111)